Amdanom Ni

Mae Parry Davies Clwyd-Jones a Lloyd LLP, sydd hefyd yn masnachu fel Elwyn Jones & Co, yn un o’r cwmnïau cyfreithiol mwyaf a blaenllaw yng Ngogledd Orllewin Cymru, gyda chwe swyddfa yng Ngwynedd ac Ynys Môn.

Rydym yn cynnig cyngor cyfreithiol i gleientiaid preifat a busnes, ac yn cwmpasu ystod lawn o wasanaethau cyfreithiol.

Rydym yn gwmni sydd wedi hen ennill ei blwyf ac sydd ag enw da am ddarparu gwasanaeth personol, moesegol a chyfeillgar iawn i'n cleientiaid. Rydym yn ymfalchïo’n fawr yn niwylliant ac iaith Cymru, ac yn cynnig gwasanaeth cwbl ddwyieithog i’n cleientiaid, am brisiau cystadleuol.

Mae ein cwmni'n cynnwys tîm o gyfreithwyr profiadol iawn sy'n arbenigo mewn gwahanol agweddau o'r gyfraith gyda chefnogaeth staff cymorth ymroddedig a chyfeillgar.

Accreditations